|
|
Ffeithiau diddorol
Mae Gwyl Wakestock ym Mhen Llyn wedi bod yn cael ei chynnal ers blynyddoedd bellach. Mae croeso cynnes i bawb o wyth i wythdeg oed, cyn belled bod yr ysbryd yn ifanc!
Yn yr oes a fu roedd pentref Porthdinllaen yn borthladd prysur. Y dyddiau hyn dim ond un tafarn ac ychydig o dai fythynnod gwyliau sydd yma, ac mai’n werth ymlwybro ar hyd y traeth Morfa Nefyn er mwyn cyrraedd T Coch sydd yn le da i dorri syched!
Fe gafodd Plas yn Rhiw ei brynu gan dair chwaer, Eileen, Lorna ac Honora Keating ym 1938. Nhw fu’n gyfrifol am adnewyddu’r stad a meithrin planhigion diddorol ac anarferol y gerddi. | |
|
|
|
 |
|
Mae’r arfordir yma yn un o harddwch eithriadol. Wrth ymlwybro ar hyd traethau nefolaidd mai’n anodd peidio â rhyfeddu at y rhan hon o’r byd.
Mae ‘na bum lon las yn sir Gwynedd, lonydd pwrpasol yw’r rhain ar gyfer cerddwyr a beicwyr sydd am fwynhau dros ddeng milltir ar hugain o gefn gwlad Cymru. Fe all pobl anabl eu mwynhau hefyd os oes ganddyn nhw fygis sydd wedi eu haddasu. Mae’r arfordir yma yn wirioneddol hardd ac mae posibl ymgolli yn llwyr yn y golygfeydd hyfryd gyda dim ond cri’r wylan a chyfarthiad y morloi yn tarfu ar y tawelwch. Does dim brys yma, dim rheidrwydd i gyrraedd pen y daith cyn cychwyn!
Mai’n werth teimlo’r gronynnau tywod yn gwasgu rhwng bodiau’r traed ar draeth y Greigddu ger Porthmadog cyn mynd ati i greu rhyfeddodau gyda’r fwced a’r rhaw.
Mae rhan fawr o Benrhyn Llyn yn arfordir treftadaeth ac mae ‘na amryw o warchodfeydd a pharciau gwledig ledled yr ardal gyda ymwelwyr yn dod o bell i weld yr amrywiaeth eang o adar sydd yma. Mae gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol rhan blaenllaw wrth geisio gwarchod a rheoli y rhan hon o’r byd. Dinas Oleu uwchlaw Abermaw oedd yr eiddo cyntaf iddyn nhw ei dderbyn nôl ym 1895. Hwythau hefyd sydd yn gyfrifol am bentref hudolus Porthdinllaen, ac eiddo yr Ymddiriedolaeth yw Plas yn Rhiw, y plasty bychan ar lethrau mynydd Rhiw uwchlaw Porth Neigwl.
Mae hi’n ardal hynod o groesawus sydd yn cynnig lletygarwch i bobl o bob oed gan gynnwys rhai sydd ag anabledd. Mae posibl i bawb fwynhau’r gweithgareddau yma.
Ffordd bleserus o fwynhau’r ardal yw crwydro yn y cyfrwy, gyda ffresni cefn gwlad yn eich ffroenau. Mae posibl carlamu ar hyd y traethau gyda mynyddoedd mawreddog Eryri yn eich gwarchod. Ond os mai’r bel bach cron sy’n mynd â’ch bryd, mae ‘na gyrsiau golff ardderchog ym Mhenryn Llyn. Anodd iawn fyddai mynd oddi yma heb flasu peth o’r danteithion lleol. Unwaith y flwyddyn mae’r Wyl Fwyd Môr yn cael ei chynnal yn nhref Pwllheli a hyd yn oed os nad yda chi’n barod i geisio bachu ei swper ei hun, mae posibl mwynhau platiad o gynnyrch Cymreig lleol heb ei ail.
| |
|
|
|