Cartref | Cofrestru | Mewngofnodi | English > 



Oeddech chi yn gwybod?
Roedd y bardd RS Thomas yn byw ac yn gweithio ym Mhen Llŷn am ran helaeth o’i fywyd, a cafodd ei ysbrydoli gan ei dirlun, natur a phobl. Cyhoeddodd dros fil o ddarnau barddoniaeth!




Yn nythu yng nghesail yr Eifl, ddim ymhell o Dre’r Ceiri, mae Nant Gwrtheyrn, hen bentref chwarelyddol hudolus.
Wrth ymlwybro i lawr yr allt serth, mae’r rhesi tai, y capel a’r plasty i’w gweld yn cynnig croeso yn y pellter. Ym 1978 fe gafodd Canolfan Iaith a Threftadaeth Nant Gwrtheyrn ei sefydlu, ac ers hynny, mae bythynnod yr hen chwarelwyr wedi bod yn gartref dros dro i filoedd o bobl sydd â’u bryd ar ddysgu’r Gymraeg.
 
Mae’r iaith yn fyw ac yn iach yn y rhan hon o Gymru, ac yn rhan allweddol o fywyd bob dydd. Ymhob siop gornel a swyddfa bost, ymhob banc a thy bwyta mae iaith y nefoedd i’w chlywed. Mae hi’n rhan annatod o’r gymdeithas, ac yn arf sydd yn sicrhau bod diwylliant unigryw y Cymry yn parhau. Mae hi’n iaith sydd yn gyfoethog o ran idiomau ac ymadroddion, ac yn un sydd â geirfa wych ar gyfer adrodd straeon, a lle bynnag yr ewch chi ar y darn o dir yma, mae ‘na digonedd o’r rheiny i’w clywed.

--------------------------------------------------------------------