|
|
Beth Yw Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol? Prif nod dynodiad AHNE yw gwarchod a gwella harddwch naturiol yr ardal ac fe’i dynodwyd yn benodol ar sail harddwch anghymharol y tirwedd, yr arfordir a’r ynysoedd. Llŷn oedd un o’r ardaloedd cyntaf i dderbyn y statws yma ym 1956. | |
|
|
|
 |
|
Mae hi’n hawdd iawn deall pam bod Penrhyn Llyn yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Mae’r tir yn gyfoethog, y ffermydd yn llawn balchder a’r tai gwyngalchog yn ddigon o ryfeddod. Ond fe fyddai’n amhosibl gwerthfawrogi’r ardal yn ei holl ogoniant heb ddringo i ben Uwchmynydd. Fe all rhywun gwblhau’r daith ar bedair olwyn neu ar ddwy goes, ac ar ôl cyrraedd y copa mae’r olygfa yn wych!
Yma y gwelir Ynys Enlli. Dyma un o drysorau Cymru, y man lle, yn ôl yr hanes y claddwyd ugain mil o saint. Mae’n atynfa gref i adaryddwyr, gan bod ‘na ddwy fil a hanner o adar drycin manaw yn nythu yma. Mae’r ynys ar lwybr mudo llawer o adar eraill hefyd, ac felly yn safle ymchwil bwysig. Mae ‘na gannoedd o bobl yn heidio i Ynys Enlli am bererindod flynyddol. Yma fe all rhywun fwynhau’r tawelwch a’r llonyddwch a dianc rhag y byd a’i boen. Mae’r Cymry yn falch iawn ohoni
Anodd iawn fyddai ceisio dod o hyd i ardal arall sydd yn cynnig cymaint o amrywiaeth o atyniadau. Yn ystod misoedd oer y gaeaf neu ar ddyddiau hir o haf mae ‘na ddigonedd o bethau i ddifyrru’r dydd. Un canolfan sydd yn atyniad o bwys ydi Oriel Plas Glyn-y-Weddw yn Llanbedrog. Gweler isod fideo o Gastell Criccieth. --------------------------------------------------------------------
| |
|
|
|