Cartref | Cofrestru | Mewngofnodi | English > 



Beth yw Arfordir Treftadaeth?
Mae’n cynnwys darnau hir o arfordir hardd sydd heb eu datblygu, a fyddai wedi eu colli am byth os heb eu diogelu. Yr amcanion yw i warchod ac amddiffyn y mannau bregus yma o’r arfordir ar gyfer y dyfodol ac i gyfoethogi mwynhad pobl mewn ffyrdd nad ydynt yn dylanwadu ar y gadwraeth.



Yn y pegwn gorllewinol mae pentref Aberdaron, ac yma mae Pen Llŷn ar ei gorau.

Yn y gaeaf mae tonnau gwyllt y môr yn taro’n galed yn erbyn y creigiau, ac yn yr haf mae’r haul tanbaid a’r bobl groesawus yn creu paradwys.

Mae’r cloc yn tician yn arafach yn Aberdaron, yma mae hi’n hawdd cefnu ar brysurdeb bywyd a chael munud i feddwl.

-------------------------------------------------------------------