|
|
Fe ddywedir fod tair pererindod i Enlli yn gyfatebol i un i Rufain! | |
|
|
|
 |
|

Eryri Mynyddoedd a Môr
Mae’r dyfroedd sydd yn amgylchynu’r ardal hon yn nefoedd i unrhyw un sydd yn mwynhau rhyddid hwylio a her y wialen bysgota.
Mae gan y rhan hon o’r byd filltiroedd o arfordir treftadaeth ac yn swatio yma ac acw mae ‘na ddegau o byrth bychain deniadol sydd yn llefydd gwych i lansio cwch ar gyfer prynhawn o ymlacio ar y tonau.
Mae’r dyfroedd yma i gyd yn frith o bob math o bysgod, tydi dal degau o fecryll yn barod i’w ffrio ddim yn anarferol, mae bachu draenog môr yn bosibl hyd yn oed i’r pysgotwr mwyaf dibrofiad, ac anodd iawn fyddai curo blas cimwch neu granc yn syth o’r cawell. Dyma baradwys pob pysgotwr.
Ond hyd yn oed os nad ydi rhywun a’i fryd ar ddal ei ginio mae posibl treulio oriau ar y tonnau heb boen yn y byd, a’r ffordd orau i wneud hyn yw mynd ar daith mewn cwch gyda sgiper profiadol wrth y llyw. Mae’r teithiau hyn yn fythgofiadwy, ac yn addas i bawb o bob oed. Yma hefyd mae rhai o draethau mwyaf godidog Prydain. Fe ddaw rhai o syrffwyr gorau’r byd i Borthor a Phorth Neigwl yn Llyn i herio’r tonau, mae nhw i’w gweld ar frig y don, gyda’r gwynt yn eu gwallt a’r rhyddid yn eu hanadl. Bob mis Gorffennaf mae’r tonfyddwyr yn tyrru ar gyfer Gwyl Wakestock yn Abersoch a Phwllheli, yr wyl fwyaf o’i math yn Ewrop. O fore gwyn tan nos mae’r pencampwyr i’w gweld yn dangos eu doniau yn nyfroedd Bae Ceredigion, ac unwaith mae hi’n nosi mae bwrlwm y bandiau a’r miri cerddorol yn cymeryd lle y bicinis!
Os am lonyddwch llwyr mae posibl canwio ar hyd yr arfordir gan orffwyso mewn ambell i borth, mwynhau golygfa’r dolffiniaid yn dawnsio a gwrando ar y gwyddau gwyllt. Mae’r dyfroedd hyn yn ddihangfa i unrhyw un sydd yn awchu am flas yr heli.
------------------------------------------------------------------
| |
|
|
|