Cartref | Cofrestru | Mewngofnodi | English > 



Calon Pen Llŷn yw ei phobl.
Yn ôl y bardd Cynan, mae nhw’n “araf yn gwgu ac yn araf yn gwenu!”

Mai’n ardal gymdeithasol gyda nifer o dafarndai yn cynnig nosweithiau cerdd neu farddoniaeth traddodiadol. Mae tref Criccieth yn cynnal gŵyl gelfyddydau blynyddol sydd yn gorffen mewn steil mawreddog gyda arddangosfa wych o dan gwyllt dros adfeilion y castell – dewch i Lŷn am y diwylliant unigryw yn siwr o’ch ysbrydoli.




Porthmadog yw’r adwy i’r ardal hyfryd hon. Mae hi’n hen dref forwrol sydd wedi ei lleoli ar aber afon Glaslyn ac sydd yn byrlymu o un pen blwyddyn i’r llall. Dyma lle’r arferir allforio llechi Blaenau Ffestiniog i bedwar ban byd. Ond er nad ydi’r llongau mawrion yn angori yma bellach, mae’r hiwmor morwrol yn parhau yn y tir. Mae ‘na bob amser groeso cynnes i’w gael gan bobl Port, yr un fath a sydd yna ym mhob tref a phentref o un cwr o’r penrhyn i’r llall. Bob dydd Mercher mae’r trigolion yn tyrru o berfeddion yr ardal i dref Pwllheli i siopau a sgwrsio. Ar ddiwrnod marchnad mae’r strydoedd cul a’r hen gaffis traddodiadol yn orlawn gyda phob un bwrdd wedi ei lenwi a phob tebot yn boeth wrth i’r drafodaeth am y byd a’i bethau fynd rhagddi. Yn y maes ynghanol y dref mae ‘na ddegau o stondinwyr sydd wedi bod yn dod i’r ardal ers degawdau, yn cynnig bargeinion a danteithion, ac mai’n anodd iawn mynd oddi yma yn waglaw! Dyma le da am fargen, a lle gwell fyth am gymdeithasu.

Ar un adeg roedd Pwllheli yn arfer bod yn harbwr pwysig, ac roedd adeiladu llongau yn ddiwydiant mawr yma. Mae hi’n dref sydd yn frith o hanes am ysmyglwyr a môr ladron oedd yn crwydro’r ardal yn ceisio cael eu pump ar y gwin oedd yn cael ei fewnforio. Ond erbyn heddiw mae’r cychod hwylio wedi cymryd lle y llongau ac mae ‘na gannoedd ohonyn nhw wedi eu hangori yn y marina. Pwllheli yw un o brif ganolfannau hwylio gwledydd Prydain.

--------------------------------------------------------------------