Cartref | Cofrestru | Mewngofnodi | English > 



Oriel Plas Glyn-y-Weddw
Mae’r hen blasty Gothig Fictoranaidd yn un o’r orielau hynaf yng Nghymru, a chraidd eu casgliad ydi darluniau cyfoes Cymreig. I unrhyw un sydd yn gwerthfawrogi hen greiriau, mae ‘na wledd! Mae yna gasgliad helaeth o lestri Abertawe a Nantgarw, casgliad sydd yn unigryw ac yn hynod o werthfawr.




Yma y lleolwyd un o chwedlau caru enwocaf Cymru, stori Rhys a Meinir. Mae hi’n adrodd hanes cwpl ifanc ddisgynnodd dros eu pen a’u clustiau mewn cariad, a phenderfynu priodi. Ond fel unrhyw stori ramant dda, mae ‘na gymhlethdodau, ac mae’r llwybr sydd yn arwain at yr allor yn un hir a thymhestlog!

Ond tydi pob chwedl yma ddim yn drist. Stori digon digrif ydi hanes yr Arglwydd o Gastellmarch oedd yn wr hynod o gyfoethog ond yn hynod o drist. Roedd gan March ab Meirchion gyfrinach fu’n peri poen iddo am flynyddoedd. Doedd yna neb ar wyneb daear yn gwybod am ei benbleth…. nes iddo orfod torri ei wallt!

--------------------------------------------------------------------